Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 8
Mehefin 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
(30 munud)
4 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Gofyn i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Rhys ab Owen (Canol De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i amddiffyn rhentwyr ar ôl gohirio gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016?
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y newyddion y bydd y grŵp sy'n berchen ar Ganolfan Ganser Rutherford yng Nghasnewydd yn cael ei ddiddymu?
5 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor
(5 munud)
NDM8021 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14:
1. Yn ethol James Evans (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn lle Peter Fox (Ceidwadwyr Cymreig).
6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd - Diwygio ein Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru
(120 munud)
NDM8014 Huw Irranca-Davies (Ogwr)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd, 'Diwygio ein Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru’.
2. Yn cymeradwyo’r cyfarwyddiadau polisi a argymhellir ynghylch deddfwriaeth i ddiwygio’r Senedd mewn digon o amser ar gyfer etholiadau nesaf y Senedd yn 2026.
3. Yn nodi bod yr adroddiad hefyd yn galw ar y Senedd i drafod nifer o faterion sy’n gysylltiedig â diwygio’r Senedd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu at y datganiad sefyllfa ar ddiwygio'r Senedd gan Lywodraeth Cymru ar 10 Mai 2022 a oedd yn tanseilio annibyniaeth a gwaith y pwyllgor.
Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at y ffaith na fyddai'r system bleidleisio a gynigir gan y pwyllgor yn caniatáu i bleidleiswyr bleidleisio dros ymgeisydd unigol o'u dewis.
7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
(60 munud)
NDM8015 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chyflawni'r gwelliannau a addawyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
2. Yn credu bod y penderfyniad i symud y bwrdd iechyd o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020 yn amhriodol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod trefn mesurau arbennig ddiwygiedig i roi'r arweiniad a'r adnoddau sydd eu hangen ar y bwrdd iechyd i fynd i'r afael â methiannau, a darparu'r gofal iechyd o ansawdd uchel y mae pobl Gogledd Cymru yn ei haeddu.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am gomisiynu adolygiad annibynnol i ystyried manteision posibl disodli Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr â strwythurau newydd i ddarparu gofal iechyd yn y gogledd, oherwydd ei broblemau cronig.
8 Cyfnod Pleidleisio
9 Dadl Fer
(30 munud)
NDM8011 Joel James (Canol De Cymru)
Materion cudd sy'n effeithio ar bobl fyddar a phobl sy'n dioddef o golled clyw
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 14 Mehefin 2022